Abraham Lincoln

Roedd Abraham Lincoln (12 Chwefror 180915 Ebrill 1865), a elwir weithiau yn Abe Lincoln, yn wladweinydd Americanaidd ac yn gyfreithiwr, ac ef oedd 16eg arlywydd UDA rhwng 1861 ac 1865. Arweiniodd Lincoln y wlad adeg Rhyfel Cartref America a llwyddodd i ddiogelu'r Undeb, diddymu caethwasiaeth, atgyfnerthu'r llywodraeth ffederal a moderneiddio’r economi.

Ganwyd ef i deulu tlawd mewn caban pren, a magwyd ef yn bennaf mewn ardal ffiniol yn Indiana. Roedd yn hunan-addysgedig, gan gymhwyso yn gyfreithiwr, a daeth yn arweinydd y Blaid Chwigaidd, yn ddeddfwr yn nhalaith Illinois ac yn Gyngreswr yng Nghyngres UDA yn cynrychioli Illinois. Yn 1849 dychwelodd i fod yn gyfreithiwr ond cythruddwyd ef gan y tiroedd ychwanegol a roddwyd at ddefnydd caethwasiaeth yn sgil Deddf Kansas-Nebraska. Dychwelodd i’r byd gwleidyddol yn 1854 gan ddod yn arweinydd y Blaid Weriniaethol newydd, a daeth i sylw cynulleidfa genedlaethol oherwydd ei ddadleuon yn 1858 gyda Stephen Douglas. Etholwyd ef yn Arlywydd UDA yn Nhachwedd 1860 ac ymgymerodd â’i swydd newydd ym mis Mawrth 1861. Enillodd fuddugoliaeth ysgubol yn y taleithiau Gogleddol ond roedd cefnogwyr caethwasiaeth yn y taleithiau Deheuol yn gweld llwyddiant Lincoln fel y Gogledd yn gwrthod derbyn eu hawl i gynnal caethwasiaeth. Dechreuodd y taleithiau Deheuol dorri i ffwrdd o'r Undeb. Er mwyn sicrhau eu hannibyniaeth, dechreuodd y Taleithiau Cydffederal ymosod ar Fort Sumter, sef caer Americanaidd yn y De, ac mewn ymateb i hynny, galwodd Lincoln ar luoedd arfog i ddistewi’r gwrthryfel ac adfer yr Undeb.

Fel arweinydd y Gweriniaethwyr Cymedrol, roedd gan Lincoln gyfeillion a gelynion ar y ddwy ochr. Daeth y Democratiaid Rhyfel â grŵp o’i gyn-wrthwynebwyr draw i’r aden gymhedrol, ond roedd y Gweriniaethwyr Radicalaidd yn mynnu bod y bradychwyr yn y taleithiau Deheuol yn cael eu cosbi’n llym. Roedd y Democratiaid gwrth-ryfel (a elwid yn ‘Copperheads’) yn ei gasáu ac roedd grwpiau o’r Cydffederalwyr yn cynllwynio i’w lofruddio. Llwyddodd Lincoln i reoli'r grwpiau gwahanol hyn drwy fanipiwleiddio eu gelyniaeth at ei gilydd, drwy wasgaru ei gefnogaeth wleidyddol yn ofalus a manteisio ar ei apêl ymhlith pobl UDA. Roedd Araith Gettysburg Lincoln yn un o’r areithiau pwysicaf yn hanes UDA gan ei fod yn pwysleisio cenedlaetholdeb a gwladgarwch, egwyddorion gweriniaethol, hawliau cydradd, rhyddid a democratiaeth. Yn ystod y Rhyfel Cartref roedd Lincoln yn archwiliwr craff o’r strategaethau a’r tactegau a ddefnyddiwyd yn y rhyfel, gan gynnwys y cadfridogion oedd yn cael eu dewis a’r blocâd morwrol a roddwyd ar fasnach y taleithiau Deheuol. Penderfynodd atal ''habeas corpus'' a llwyddodd i osgoi ymyrraeth oddi wrth Brydain drwy ddiffiwsio Mater Trent. Yn sgil ei arweinyddiaeth fedrus llwyddodd i roi diwedd ar gaethwasiaeth drwy lofnodi'r Datganiad Rhyddfreinio, a gorchmynnodd bod y Fyddin yn amddiffyn ac yn recriwtio cyn-gaethweision. Roedd hefyd yn annog taleithiau ar yr arfordir i anghyfreithloni caethwasiaeth ac roedd yn hyrwyddwr brwdfrydig o'r 13eg Gwelliant yng Nghyfansoddiad UDA, a oedd yn gwneud caethwasiaeth yn anghyfreithlon ar draws y wlad.

Bu Lincoln yn ffigwr pwysig o ran trefnu a rheoli ei ymgyrch ei hunan i gael ei ail-ethol. Ceisiodd uno’r UDA, a oedd wedi dioddef yn sgil y rhyfel. Ar 14 Ebrill 1865, ychydig ddiwrnodau wedi diwedd y rhyfel yn Appomattox, pan oedd Lincoln wedi mynd i weld drama yn Theatr Ford gyda’i wraig, Mary, cafodd ei lofruddio gan gefnogwr Cydffederal, sef John Wilkes Booth. Mae Lincoln yn cael ei gofio fel merthyr yn UDA ac yn cael ei gyfrif ymhlith arlywyddion pwysicaf hanes UDA. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 945 ar gyfer chwilio 'Lincoln, Abraham, 1809-1865', amser ymholiad: 0.17e Mireinio'r Canlyniadau
1
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
New York, NY : HarperCollins, 1990

Llyfr
2
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
Spoken Arts 1961

This item is not available through EZBorrow. Please contact your institution’s interlibrary loan office for further assistance.
Sain Llyfr
3
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
CRCPress.; [Chicago] University of Chicago Press 1958

Llyfr
4
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
New York, The current literature publishing co., 1907

Llyfr
5
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
New York : W. W. Norton & Company, 2015
First edition.

Llyfr
8
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
Chicago : Wilcox & Follett 1950
[First edition].

Llyfr
9
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
Arlington, Tex. : Summit Publishing Group, 1997

Llyfr
10
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
Peoria, Ill. : Logan Printing Co., 1950

Llyfr
11
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
Westport, Conn. : Greenwood Press, 1974

Llyfr
12
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
Boston, Houghton Mifflin Co., 1899

Llyfr
13
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
New York, Scribner 1927

Llyfr
14
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
Kennebunkport, Me. : Enfield : Cider Mill ; Publishers Group UK [distributor], 2009
1st edition.

Llyfr
15
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
New York, American Book Co., 1898

Llyfr
16
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
New York : Macmillan, 1985

Llyfr
17
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
Menasha, Wis., Collegiate press, 1942

Llyfr
18
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
New York, NY : Welcome Books, 2007
1st ed.
Awduron Eraill: ...Lincoln, Abraham, 1809-1865...

Llyfr
19
gan Lincoln, Abraham, 1809-1865
New York, Books, Inc. 1920

Llyfr