Dim Canlyniadau!

Eich chwiliad - Ford, Henry, 1917-1987. - ddim yn cyfateb ag unrhyw adnoddau

Henry Ford

Diwydiannwr Americanaidd oedd Henry Ford (30 Gorffennaf 18637 Ebrill 1947). Ef oedd sylfaenydd cwmni moduron Ford Motor Company.

Ganed Ford yn Wayne County (Michigan). Cynhyrchodd ei fodur cyntaf yn 1892. Sefydlodd y Detroit Automobile Company, ond methodd y cwmni yn fuan; yna dechreuodd yr Henry Ford Company heb lawer o lwyddiant. Dim ond ar ei drydedd ymgais, gyda'r Ford Motor Company, y cafodd lwyddiant. Cynhyrchodd nifer o wahanol foduron, pob un yn cael ei ddynodi a llythyren, o'r Model A hyd y Model S; ond y Model T a ddaeth a llwyddiant mawr i'r cwmni. Am hwn y gwnaeth Ford ei sylw enwog y gallai'r cwsmer ei gael mewn unrhyw liw, cyn belled a'i fod yn ddu.

Yn ei ffatrioedd, mabwysiadodd ddull newydd o weithio, y "llinell adeiladu", a gwnaeth hyn gynhyrchu modurion mewn niferoedd mawr yn bosibl am y tro cyntaf. Golygai hyn fod y moduron yn llawer rhatach. Priododd Clara Bryant yn 1888, a chawsant un mab, Edsel Bryant Ford.

O 1919 ymlaen, cyhoeddodd y ''Dearborn Independent'', oedd yn cynnwys deunydd dadleuol, peth ohono'n wrth-semitaidd. Ceir elfennau o hyn yn ei hunangofiant hefyd. Yn 1927, ymddiheurodd yn gyhoeddus am hyn a rhoddodd y gorau i gyhoeddi'r cylchgrawn. Darparwyd gan Wikipedia